Proverbs 25

Diarhebion Solomon – Casgliad Heseceia

1Diarhebion Solomon ydy'r rhain hefyd, wedi eu casglu gan weision Heseceia, brenin Jwda:

2Braint Duw ydy cadw pethau'n ddirgelwch;
braint brenhinoedd ydy chwilio a darganfod.
3Fel mae'r awyr yn rhy uchel, a'r ddaear yn rhy ddofn,
does neb yn gwybod beth sy'n mynd trwy feddwl brenhinoedd.
4Ar ôl gwahanu'r amhuredd o'r arian,
mae'r gof yn gallu creu llestr hardd.
5Ar ôl symud y rhai drwg o ŵydd y brenin
bydd cyfiawnder yn gwneud ei orsedd yn ddiogel. a
6Paid canmol dy hun o flaen y brenin,
a mynd i eistedd yn y seddi pwysig.
7Mae'n well cael rhywun yn dweud, “Symud i fyny,”
na chael dy gywilyddio o flaen pobl bwysig.
8Paid bod ar ormod o frys i fynd i'r llys
am dy fod wedi gweld rhywbeth.
Beth os fydd rhywun arall yn dweud yn groes i ti?
9Trafod y peth yn breifat gyda'r person hwnnw,
a paid dweud am y peth wrth neb arall.
10Does gen ti ddim eisiau i rywun dy gondemnio di,
ac i ti gael enw drwg am byth.
11Mae gair o ganmoliaeth
fel gemwaith aur mewn tlws arian.
12Mae gwrando ar gerydd gan rywun doeth
fel modrwy aur, neu dlws o aur coeth.
13Mae negesydd ffyddlon yn adfywio ysbryd ei feistri,
fel dŵr oer ar ddiwrnod poeth o gynhaeaf.
14Cymylau a gwynt, ond dim glaw –
felly mae'r un sy'n brolio'i haelioni, ond byth yn rhoi.
15Gyda tipyn o amynedd gellir perswadio llywodraethwr;
ac mae geiriau tyner yn delio gyda gwrthwynebiad.
16Pan gei fêl, paid cymryd mwy nag wyt ei angen,
rhag i ti fwyta gormod, a chwydu'r cwbl i fyny.
17Paid mynd i dŷ rhywun arall yn rhy aml,
rhag iddo gael llond bol, a throi yn dy erbyn di.
18Mae tyst sy'n dweud celwydd mewn achos llys
yn gwneud niwed fel pastwn, neu gleddyf, neu saeth finiog.
19Mae trystio rhywun sy'n ddi-ddal mewn amser anodd
fel diodde o'r ddannodd neu fod yn simsan ar dy draed.
20Mae canu caneuon i rywun sydd â chalon drist
fel tynnu dillad ar ddiwrnod oer, neu roi halen ar friw.
21Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwyd iddo;
os ydy e'n sychedig, rho ddŵr iddo i'w yfed.
22Byddi'n tywallt marwor tanllyd ar ei ben,
a bydd yr Arglwydd yn rhoi dy wobr i ti.
23Mae gwynt y gogledd yn dod â glaw,
a thafod sy'n bradychu cyfrinach yn dod â gwg.
24Mae byw mewn cornel yn yr atig
25:24 yn yr atig Hebraeg, “ar do tŷ”

yn well na rhannu cartref gyda gwraig gecrus. c
25Mae derbyn newyddion da o wlad bell
fel diod o ddŵr oer i wddf sych.
26Mae dyn da sy'n plygu i ddyn drwg
fel ffynnon yn llawn mwd neu bydew wedi ei ddifetha.
27Dydy bwyta gormod o fêl ddim yn beth da,
a dydy edrych am ganmoliaeth ddim yn iawn.
28Mae rhywun sy'n methu rheoli ei dymer
fel dinas a'i waliau wedi eu bwrw i lawr.
Copyright information for CYM